Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 30 Medi 2021
Amser:
09.15 -
16.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12415
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Huw Irranca-Davies AS Delyth Jewell AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Yr Arglwydd Deben, UK Committee on Climate Change Sophie Howe, Future Generations Commissioner Ruth Jenkins, Cyfoeth Naturiol Cymru Jeremy Parr, Cyfoeth Naturiol Cymru Haf Elgar, Cyfeillion y Ddaear Jerry Langford, Coed Cadw Katie-jo Luxton, RSPB Cymru Anne Meikle, WWF Cymru Annie Smith, RSPB Clare Trotman, Marine Conservation Society Yr Athro Richard Cowell, Prifysgol Caerdydd Dr David Clubb, Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru Dr Clive Walmsley, Cyfoeth Naturiol Cymru Jacob Ellis, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Claire Shrewsbury, WRAP Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon, a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Delyth Jewell AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro.
1.3 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Llyr Gruffydd AS a Joyce Watson AS ddatganiadau o fuddiant perthnasol.
.
2 Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: Sesiwn dystiolaeth 5 – newid hinsawdd
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Deben, y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, a Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
3 Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: Sesiwn dystiolaeth 6 – newid hinsawdd a llifogydd
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gyfeillion y Ddaear Cymru; Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) Cymru, a Chyfoeth Naturiol Cymru.
.
4 Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: Sesiwn dystiolaeth 7 – yr amgylchedd a bioamrywiaeth: llywodraethiant a thargedau
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio – Prifysgol Caerdydd; Cyfoeth Naturiol Cymru; Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru, a’r Gymdeithas Cadwraeth Forol.
5 Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: Sesiwn dystiolaeth 8 – yr amgylchedd a bioamrywiaeth: adferiad gwyrdd
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Coed Cadw; Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru, a WRAP Cymru.
6 Gwaith craffu ar Ddarpar Gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
6.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda'r Ddarpar Gadeirydd, Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.
7 Papur(au) i'w nodi
9.1 Cafodd y papurau eu nodi.
7.1 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Amgylchedd
7.2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Amgylchedd
7.3 Y DU/Japan: Protocol ar Ddiwygio'r Cytundeb ar gyfer Cydweithredu o ran y Defnydd Heddychlon o Ynni Niwclear
7.4 Egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol
7.5 Fframweithiau Cyffredin
7.6 Dŵr Cymru
7.7 Yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) ac (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw
8.1 Derbyniwyd y cynnig.
.
9 Blaenoriaethau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: ystyried tystiolaeth a glywyd o dan eitemau 2,3,4 a 5
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2,3, 4 a 5.
10 Gwaith craffu ar Ddarpar Gadeirydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru: ystyried y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 6
10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 6 a nododd faterion yr oedd am eu cynnwys yn ei adroddiad.
.